Deiseb: Llywodraeth Cymru Peidiwch ag ehangu pwll glo brig mwyaf y DU
Deiseb: Llywodraeth Cymru Peidiwch ag ehangu pwll glo brig mwyaf y DU
See our English language version of this webpage.
Mae Cymru ar fin penderfynu a ddylid ehangu pwll glo brig mwyaf y DU gan bron i 4 blynedd a 2 filiwn tunnell o lo. Bydd hyn yn gyrru newid hinsawdd gan bron i 6 miliwn tunnell o CO2 a 16,000 tunnell o fethan.
Mae pwll glo Ffos-y-fran ym Merthyr Tudful sy’n chwalu’r hinsawdd yn echdynnu hyd at 50,000 tunnell o lo bob mis – sef glo y dyfarnodd Llys Cyfiawnder Ewrop ei fod yn creu gormod o lygredd i’w losgi yn hen orsaf bŵer Aberddawan, ac sydd bellach yn cael ei losgi’n bennaf mewn gwaith dur. Mae hyn yn rhwymo gwaith dur TATA i fod yr 2il safle mwyaf llygredig yn y DU!
Sign the petition now
Digon yw digon!
Mae deisebwyr yn mynnu bod Llywodraeth Cymru:
- yn cymryd drosodd y cyfrifoldeb am benderfynu, os bydd y Cyngor lleol yn ystyried rhoi caniatâd cynllunio i ehangu pwll glo brig Ffos-y-fran.
- yn gweithredu ar wyddoniaeth hinsawdd, yn gwrando ar drigolion lleol, ac yn dilyn ei chyfreithiau a’i pholisïau ei hun megis Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
- yn gwrthod yn gyflym ehangu pwll glo brig mwyaf y DU, yn cynnwys cynllun peilot Incwm Sylfaenol Cyffredinol y gweithwyr, ac yn buddsoddi mewn swyddi sydd â dyfodol.
Pam mae hyn yn bwysig?
Pan roddwyd caniatâd gan Lywodraeth Cymru yn 2005, cafodd y gymuned leol ym Merthyr Tudful, a oedd wedi brwydro’n ffyrnig yn erbyn y cynnig, addewid y byddai mwyngloddio’n dod i ben ar ôl 15 mlynedd, ar 6ed Medi 2022 ac y byddai’r gwaith o adfer y tir wedi’i gwblhau ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Ond adroddir nad yw mwyngloddio glo wedi dod i ben, gan ddifetha’r heddwch hir-ddisgwyliedig i’r gymuned leol sy’n gallu gweld a chlywed y pwll glo o’u cartrefi. Ac yn awr mae'r cwmni mwyngloddio wedi gwneud cais i ehangu'r pwll glo am 9 mis, ac wedi dweud y bydd yn ceisio am 3 blynedd arall o gloddio am lo, (a phwy a ŵyr beth y tu hwnt i hynny...?).
Bydd hyn nid yn unig yn hybu newid yn yr hinsawdd gan bron i 6 miliwn tunnell o CO2 a 16,000 tunnell o fethan, ond hefyd yn achosi dioddefaint i’r trigolion cyfagos trwy’r ffrwydradau pellach, llygredd sŵn a llwch. Ar ben hyn, bydd y gwaith adfer hir-ddisgwyliedig ar y tir yn cael ei wthio yn ôl gan flynyddoedd, gyda phryderon na fydd byth yn digwydd.
Sut y cyflwynir y ddeiseb
Bydd y ddeiseb hon yn cael ei chyflwyno i Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru.
Sign the petition now
Published: 23/11/22
