|

Deiseb: Llywodraeth Cymru Peidiwch ag ehangu pwll glo brig mwyaf y DU

Deiseb: Llywodraeth Cymru Peidiwch ag ehangu pwll glo brig mwyaf y DU

See our English language version of this webpage.

Mae Cymru ar fin penderfynu a ddylid ehangu pwll glo brig mwyaf y DU gan bron i 4 blynedd a 2 filiwn tunnell o lo. Bydd hyn yn gyrru newid hinsawdd gan bron i 6 miliwn tunnell o CO2 a 16,000 tunnell o fethan.

Mae pwll glo Ffos-y-fran ym Merthyr Tudful sy’n chwalu’r hinsawdd yn echdynnu hyd at 50,000 tunnell o lo bob mis – sef glo y dyfarnodd Llys Cyfiawnder Ewrop ei fod yn creu gormod o lygredd i’w losgi yn hen orsaf bŵer Aberddawan, ac sydd bellach yn cael ei losgi’n bennaf mewn gwaith dur. Mae hyn yn rhwymo gwaith dur TATA i fod yr 2il safle mwyaf llygredig yn y DU!

Sign the petition now

Digon yw digon!

Mae deisebwyr yn mynnu bod Llywodraeth Cymru:

  1. yn cymryd drosodd y cyfrifoldeb am benderfynu, os bydd y Cyngor lleol yn ystyried rhoi caniatâd cynllunio i ehangu pwll glo brig Ffos-y-fran.
  2. yn gweithredu ar wyddoniaeth hinsawdd, yn gwrando ar drigolion lleol, ac yn dilyn ei chyfreithiau a’i pholisïau ei hun megis Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
  3. yn gwrthod yn gyflym ehangu pwll glo brig mwyaf y DU, yn cynnwys cynllun peilot Incwm Sylfaenol Cyffredinol y gweithwyr, ac yn buddsoddi mewn swyddi sydd â dyfodol.

Pam mae hyn yn bwysig?

Pan roddwyd caniatâd gan Lywodraeth Cymru yn 2005, cafodd y gymuned leol ym Merthyr Tudful, a oedd wedi brwydro’n ffyrnig yn erbyn y cynnig, addewid y byddai mwyngloddio’n dod i ben ar ôl 15 mlynedd, ar 6ed Medi 2022 ac y byddai’r gwaith o adfer y tir wedi’i gwblhau ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Ond adroddir nad yw mwyngloddio glo wedi dod i ben, gan ddifetha’r heddwch hir-ddisgwyliedig i’r gymuned leol sy’n gallu gweld a chlywed y pwll glo o’u cartrefi. Ac yn awr mae'r cwmni mwyngloddio wedi gwneud cais i ehangu'r pwll glo am 9 mis, ac wedi dweud y bydd yn ceisio am 3 blynedd arall o gloddio am lo, (a phwy a ŵyr beth y tu hwnt i hynny...?).

Bydd hyn nid yn unig yn hybu newid yn yr hinsawdd gan bron i 6 miliwn tunnell o CO2 a 16,000 tunnell o fethan, ond hefyd yn achosi dioddefaint i’r trigolion cyfagos trwy’r ffrwydradau pellach, llygredd sŵn a llwch. Ar ben hyn, bydd y gwaith adfer hir-ddisgwyliedig ar y tir yn cael ei wthio yn ôl gan flynyddoedd, gyda phryderon na fydd byth yn digwydd.

Sut y cyflwynir y ddeiseb

Bydd y ddeiseb hon yn cael ei chyflwyno i Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru.

Sign the petition now

Published: 23/11/22

Similar Posts

Subscribe
Notify of
guest

0 Comments
Oldest
Newest Most Voted